Yr hyn y mae Cymru yn ei wneud heddiw, bydd y byd yn ei wneud yfory.

- Nikhil Seth, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig

#

futuregen

Stori sut y gwnaeth un wlad fach ymateb i heriau hinsawdd byd-eang drwy ailfeddwl yn radical am bolisi cyhoeddus er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Ble i’w brynu

Mae #futuregen: Gwersi o Wlad Fechan ar gael i’w brynu gan Y Lolfa, cyhoeddwr y fersiwn Gymraeg.
Gellir prynu’r llyfr ar-lein drwy wefan Y Lolfa.

Dr Jane Davidson UWTSD.JPG

Gan yr awdur Dr Jane Davidson

Yn #futuregen, mae Jane Davidson yn esbonio sut, fel Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yng Nghymru, y cynigiodd yr hyn a ddaeth yn Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 — y darn cyntaf o ddeddfwriaeth yn hanes y byd i osod arferion adfywiol a chynaliadwy wrth galon llywodraeth. Yn unigryw o ran ei chwmpas a’i gweledigaeth, mae’r Ddeddf yn cysylltu llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol, ac yn ceisio mynd i’r afael â materion cymhleth drwy well penderfyniadau.


Canmoliaeth i #futuregen

‘Deddf wirioneddol arloesol... a gwlad sy’n ceisio’i hail-greu ei hun - mae stori’r peiriant chwyldroadol hwn ar gyfer newid yn cynnig posibiliadau enfawr ac mae’n arwydd gwirioneddol o obaith...’
— - Michael Sheen
‘Cewch eich ysbrydoli gan y stori hynod ddiddorol hon am sut y gwnaeth Cymru ddeddfu ar y ddyletswydd sydd ar y wlad i fynd ar drywydd cynaliadwyaeth ar ran cenedlaethau’r dyfodol.’
— – Gro Harlem Brundtland, cyn-Brif Weinidog Norwy a Chyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd
‘Yr hyn a geir yn y gyfrol hon yw taith saith mlynedd i gael Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 ar y llyfrau statud, ac mae’n daith ryfeddol. Yr hyn sy’n gwneud y llyfr yn ddifyr yw cyffyrddiadau personol Jane Davidson – ei chefndir a’i hanes, a sut y daeth i sylweddoli mai dim ond deddf fyddai’n galluogi Cymru i ddod yn agos at ateb heriau’r argyfwng hinsawdd, a’r dasg o droi y ddelfryd llesiant yn ffaith. Nid yw gwireddu’r ddeddf hon yn ddim llai na gwyrth.’
— – Angharad Tomos, Barn