BBC Cymru: Jane Davidson a'i thaith i fod yn hunan-gynhaliol

"Dwi'n byw ac yn brwydro dros un neges: paid â gwneud niwed."

Mae 10 mlynedd ers i Jane Davidson gyflwyno'r gost am fag plastig yng Nghymru yn 2011.

Ond dyw'r cyn-Weinidog Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru heb fod yn segur ers hynny ac mae wedi targedu ei hegni at fyw bywyd cynaliadwy a'r ymdrech i fod yn garbon niwtral.

Erbyn hyn mae'n byw gyda'i gŵr Guy ar fferm fach 10-acr cynaliadwy ger Aberteifi. Ac mae'n chwerthin wrth ddweud: "Dwi dal i gael fy adnabod fel y 'menyw bag plastig'!

Darllenwch yr erthygl ar BBC Cymru